Nyth y Deryn has won the Siarter Iaith Gold Award

Back
News

We are delighted to announce that our school achieved the Siarter Iaith Gold Award in July 2026, the highest recognition available through the Welsh Language Charter programme. The award celebrates schools that successfully promote the Welsh language, culture and heritage and embed Welsh into everyday school life.

Over the past year we have worked hard to ensure that Welsh is visible, heard and celebrated throughout the school. Classrooms and shared areas have been enhanced with bilingual displays and signage, Welsh has been incorporated into daily routines and learners have been encouraged to use simple Welsh phrases in a natural and meaningful way. Our popular Welsh Speaker of the Week award has also recognised learners and staff who make a special effort to use Welsh. It is a “must win” award of the week!

We have celebrated a wide range of Welsh events throughout the year, including Dydd Gŵyl Dewi, Santes Dwynwen, Welsh Music Day and Diwrnod Shwmae. Learners have explored Welsh history, culture and traditions through classroom activities, visits and enrichment experiences, helping them develop a deeper understanding of what it means to live in Wales.

A particular highlight of the year was our annual School Eisteddfod. Building on the success of previous years, learners took part in a variety of creative and cultural activities that celebrated the Welsh language. This year also saw the introduction of our first Chairing of the Bard competition. Inspired by a famous Welsh tradition, learners competed through a literacy project before taking part in a special ceremony where the winning Bard was presented with a trophy to keep. The event was a fantastic celebration of Welsh culture and quickly became one of the highlights of the school year

Achieving Gold is something of which we are immensely proud but we see it as part of an ongoing journey. At Nyth y Deryn, we remain fully committed to promoting the Welsh language and ensuring that our learners continue to develop an appreciation of Wales, its culture, its heritage and its unique national identity for many years to come.

Eisted

Mae Nyth y Deryn wedi ennill Gwobr Aur y Siarter Iaith

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod ein hysgol wedi ennill Gwobr Aur y Siarter Iaith ym mis Gorffennaf 2026; dyma’r gydnabyddiaeth uchaf sydd ar gael trwy raglen y Siarter Iaith. Mae’r wobr yn dathlu ysgolion sy’n llwyddo i hyrwyddo’r iaith, diwylliant a threftadaeth Gymraeg ac sy’n gwreiddio’r Gymraeg ym mywyd bob dydd yr ysgol.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweithio’n galed i sicrhau bod y Gymraeg i’w gweld, i’w chlywed ac yn cael ei dathlu ledled yr ysgol. Mae ystafelloedd dosbarth ac ardaloedd cyffredin wedi’u gwella gydag arddangosfeydd ac arwyddion dwyieithog; mae’r Gymraeg wedi’i hymgorffori yn y drefn ddyddiol ac mae dysgwyr wedi cael eu hannog i ddefnyddio ymadroddion Cymraeg syml mewn ffordd naturiol ac ystyrlon. Mae ein gwobr boblogaidd ‘Siaradwr Cymraeg yr Wythnos’ hefyd wedi cydnabod dysgwyr ac aelodau o’r staff sy’n gwneud ymdrech arbennig i ddefnyddio’r Gymraeg. Mae’n wobr y mae pawb eisiau ei hennill bob wythnos!

Rydym wedi dathlu amrywiaeth eang o ddigwyddiadau Cymreig trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys Dydd Gŵyl Dewi, Dydd Santes Dwynwen, Diwrnod Cerddoriaeth Cymru a Diwrnod Shwmae. Mae dysgwyr wedi archwilio hanes, diwylliant a thraddodiadau Cymru trwy weithgareddau yn yr ystafell ddosbarth, ymweliadau a phrofiadau cyfoethogi, gan eu helpu i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o’r hyn y mae’n ei olygu i fyw yng Nghymru.

Uchafbwynt arbennig y flwyddyn oedd ein Eisteddfod Ysgol flynyddol. Gan adeiladu ar lwyddiant blynyddoedd blaenorol, cymerodd dysgwyr ran mewn amrywiaeth o weithgareddau creadigol a diwylliannol a oedd yn dathlu’r iaith Gymraeg. Eleni hefyd gwelwyd cyflwyno ein cystadleuaeth gyntaf i ‘Gadeirio’r Bardd’. Wedi’u hysbrydoli gan draddodiad Cymreig enwog, cystadlodd dysgwyr trwy brosiect llythrennedd cyn cymryd rhan mewn seremoni arbennig lle cyflwynwyd tlws i’r Bardd buddugol i’w gadw. Roedd y digwyddiad yn ddathliad gwych o ddiwylliant Cymru ac yn gyflym iawn daeth yn un o uchafbwyntiau blwyddyn yr ysgol.

Mae ennill y Wobr Aur yn rhywbeth rydym yn hynod falch ohono, ond rydym yn ei ystyried yn rhan o daith barhaus. Yn Nyth y Deryn, rydym yn parhau i fod yn gwbl ymroddedig i hyrwyddo’r iaith Gymraeg ac i sicrhau bod ein dysgwyr yn parhau i ddatblygu gwerthfawrogiad o Gymru, ei diwylliant, ei threftadaeth a’i hunaniaeth genedlaethol unigryw am flynyddoedd lawer i ddod.